P-05-990 Agor ysgolion ym mis Medi. Cael gwared ar ddysgu cyfunol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martha Ogunremi, ar ôl casglu cyfanswm o 9,266 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Bydd ysgolion mewn rhannau eraill o'r DU yn agor yn llawn ym mis Medi. Nid oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau cadarn ar gyfer hyn ac mae'n siarad yn gynyddol am weithredu dysgu cyfunol yn y tymor hwy. Mae angen i'n plant ddychwelyd i’r ysgol ym mis Medi er mwyn sicrhau nad yw plant yng Nghymru yn disgyn y tu ôl i rannau eraill o'r DU, a chaniatáu i rieni weithio a rhoi’r hawl i’w plant gael addysg go iawn. Nid yw Kirsty Williams wedi meddwl sut y bydd dysgu cyfunol yn gweithio os bydd angen i rieni weithio. Ni fydd neb am gyflogi rhieni.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Dwyrain Casnewydd

·         Dwyrain De Cymru